Sesiynau Boccia – beth yw hynny?
Mae Boccia yn gamp Paralympaidd gyda phêl sy’n profi rheolaeth cyhyrau a chywirdeb. Rydych chi’n chwarae o safle eistedd sy’n ddelfrydol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Nod y gemau yw gyrru peli i lanio yn agos at bêl wen marcio, sef y jac, nid annhebyg i’r hyn rydych yn ei wneud mewn bowls neu pétanque. Gall chwaraewyr sy’n ei chael hi’n anodd gafael a thaflu’r bêl ddefnyddio ramp pêl fel y gallant gymryd rhan. Mae Boccia yn cael ei chwarae dan do ar gwrt tua’r un maint â chwrt badminton. Gallwch gystadlu fel unigolyn, mewn pâr, neu fel tîm o dri.
Mae’r sesiynau’n boblogaidd iawn ac yn cael eu cynnal bob yn ail ddydd Iau rhwng 11am – 12 canol dydd yn y lolfa gymunedol ym Maes Cwstennin yng Nghyffordd Llandudno. Mae ein tîm wedi bod yn siarad am gyflwyno’r sesiynau mewn cynlluniau eraill i bobl dros 55 oed ac efallai dechrau cynghrair lle gall tenantiaid o wahanol ardaloedd gystadlu yn erbyn ei gilydd.
Mae’r ymateb o’r 2 sesiwn diwethaf wedi bod yn wych:
“Doeddwn i ddim eisiau mynd mewn gwirionedd gan feddwl nad oedd hyn yn rhywbeth i mi, ond rwy’n falch i mi wneud gan fy mod wedi cael amser mor wych yn chwerthin a chellwair efo eraill, heb sylweddoli fy mod mor gystadleuol. Fedra i ddim aros am yr un nesaf”.
“Roedd yn fore gwych, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gallu cymryd rhan gan fod fy symudedd yn wael ond roedd yn hawdd iawn ac yn hwyl, rydw i’n methu aros am yr un nesaf”
Mae’r tenantiaid bellach yn ystyried prynu eu citiau Boccia eu hunain fel y gallant chwarae yn y ganolfan gymunedol yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd eu hwyliau’n mynd yn isel neu phan fyddant yn teimlo’n unig.