Mae gweddnewidiad rhyfeddol £1.4 miliwn ystâd o dai yn “hafan werdd” wedi cael ei anrhydeddu â gwobr amgylcheddol nodedig.
Ystâd Tre Cwm yn Llandudno, a reolir gan y gymdeithas dai Cartrefi Conwy, yw’r ail ystâd yng Nghymru i ennill Gwobr Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae’n dipyn o bluen yn het Cartrefi Conwy oherwydd chwe blynedd yn ôl yr ystâd dai gyntaf yng Nghymru i ennill yr anrhydedd oedd Parc Peulwys yn Llysfaen, uwchben Hen Golwyn, sydd hefyd yn eiddo i’r gymdeithas.
Erbyn hyn mae Parc Peulwys wedi ennill statws Baner Werdd – y marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd – am y chweched flwyddyn yn olynol.
Fel rhan o’r cynllun yn ystâd Tre Cwm, cafodd ardaloedd o dir sydd wedi’u hesgeuluso eu troi’n fannau gwyrdd braf sy’n cynnwys lindys anferth wedi’i wneud o glogfeini.
Y nod oedd ailgysylltu pobl ifanc sy’n byw ar yr ystâd gyda’r amgylchedd naturiol trwy greu ardaloedd cymunedol y gall teuluoedd eu mwynhau a lle gall plant chwarae’n ddiogel ynddynt.
Mae’r ystâd hefyd wedi elwa o ailddylunio ffyrdd, dynodi mannau parcio ceir, llwybrau cerdded a newid ardaloedd concrid yn fannau gwyrdd – gyda rhaglen fawr o blannu coed, llwyni a blodau hefyd yn llonni’r ardal.
Daeth y gwaith yma yn ychwanegol i’r £2.75 miliwn a wariwyd gan y gymdeithas dai i wella tai, fflatiau a fflatiau deulawr ar yr ystâd a adeiladwyd yn y 1970au.
Mae’r prosiect wedi cael ei arwain gan Swyddog Datblygu Amgylcheddol Cartrefi Conwy, Matt Stowe, dylunydd tirlun a garddwr cymwysedig.
Dywedodd: “Rwyf ar ben fy nigon a dweud y lleiaf. Mae tîm cyfan Cartrefi Conwy wedi gweithio’n hynod o galed i droi’r ystâd hon yn gymuned ddymunol a ffyniannus lle gall teuluoedd fwynhau byw ynddi.
“Ond, er mor galed rydym wedi gweithio ar y cynllun, y gymuned – trigolion Tre Cwm eu hunain – yw’r rhai sydd wedi gweithio galetaf. Mae’n wych bod y gymuned wedi perchnogi’r hyn roeddem yn ceisio’i gyflawni drwy’r prosiect.
“Roeddem am i’r ffocws fod ar chwarae a darparu mannau chwarae ledled yr ystâd lle’r oedd darpariaeth chwarae yn hollbwysig.
“Mae yno ardaloedd diogel i blant bach a phlant ifanc ac ardaloedd chwarae naturiol i annog plant hŷn i fod yn anturus a mwynhau ardaloedd awyr agored a chysylltu efo’r byd naturiol. Rhan bwysig o’r prosiect oedd ein bod wedi gweld chwarae yn treiddio i bob rhan o’r ystâd.”
Ychwanegodd: “Yr hyn nad oeddem am ei wneud oedd llunio cynlluniau a fyddai’n cael eu gorfodi ar breswylwyr, felly ym mhob cam o’r broses mi wnaethon ni ymgynghori a chynnal digwyddiadau lle gallai’r trigolion fynegi eu barn a chynnig syniadau.
“Bu ymdeimlad cryf o gymuned erioed ar ystâd Tre Cwm ond mae’r ymdeimlad hwnnw o gymuned wedi’i gryfhau drwy’r prosiect yma. Mae plant wedi cael eu cynnwys o’r cychwyn cyntaf a gofynnwyd iddyn nhw beth roedden nhw am ei weld.
“Ac wrth gwrs mae cynifer o asiantaethau partner wedi bod yn rhan o’r gwaith ac mae hynny wedi helpu i gryfhau’r ysbryd cymunedol a’r teimlad hwnnw o bawb yn tynnu efo’i gilydd.”
Ychwanegodd Owen Veldhuizen, Rheolwr Adfywio Cymunedol Cartrefi Conwy: “Roedd holl syniad prosiect Tre Cwm yn ymwneud ag agor gofod, rhoi mynediad i bawb i bob ardal a phlannu coed, llwyni a blodau cynaliadwy newydd.
“Roedd yna heriau ond gyda chymorth y gymuned, mae’r rhain i gyd wedi’u goresgyn.
“Mi wnaethon ni rannu’r prosiect yn llawer o gynlluniau llai a chredaf fod hynny wedi helpu tenantiaid i weld eu hamgylchedd a’u hystâd mewn ffordd wahanol.
“I mi mae’r ardaloedd chwarae newydd yn wirioneddol hudol. Yn amlwg, mae’n rhaid i ni feddwl am ddiogelwch plant ond ar yr un pryd roeddem am ychwanegu elfen o risg i’w chwarae, mae angen iddyn nhw ddysgu hefyd.
“Mae ennill ail Wobr Baner Werdd, yr unig ddwy yng Nghymru, yn anhygoel. Dylai tenantiaid Tre Cwm fod yn falch iawn o’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni. Nhw sydd wedi gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith caled.”
Roedd yn foment falch i Gwynne Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy, Jones.
Dywedodd: “Ein hethos yw adeiladu cymunedau i ymfalchïo ynddynt a dyna’n union rydym wedi’i gyflawni yn Nhre Cwm. Mae’r Wobr Baner Werdd hon yn perthyn i’n preswylwyr ac i gymuned gyfan Tre Cwm.
“Mae’r gwaith corfforol ac adeiladu wedi cael ei wneud gan staff Cartrefi Conwy a’n partneriaid, yn enwedig Brenig Construction sydd, fel erioed, wedi bod yn anhygoel.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Mi wnaethon ni ddechrau yn 2014 drwy ymgynghori â thenantiaid i weld beth oedden nhw ei eisiau a sut roedden nhw am gyflawni’r nod o wneud yr ystâd yn fwy ecogyfeillgar ac yn well i oedolion a phlant fel ei gilydd.
“Efallai ei fod wedi cymryd ychydig flynyddoedd i’w gwblhau ond roeddem am wneud yn siŵr ein bod yn gwneud pethau’n iawn. Nid oes amheuaeth bod ennill y Wobr Baner Werdd hon yn dangos yn glir ein bod ni a’r gymuned gyfan wedi mynd ati yn y ffordd gywir.”