Preswylwyr yn gweld ffrwyth eu llafur wrth ennill gwobr nodedig

Preswylwyr yn gweld ffrwyth eu llafur wrth ennill gwobr nodedig

Mae perllan sy’n darparu sudd afal am ddim i blant ysgol lleol a gardd goffa i anrhydeddu anwyliaid coll wedi helpu preswylwyr ystâd dai i weld ffrwyth eu llafur wrth gipio gwobr amgylcheddol o fri.

Mae gwaith caled grŵp Bysedd Gwyrdd ar ystâd Rhodfa Caer ym Mae Cinmel sydd wedi’i reoli gan gymdeithas dai Cartrefi Conwy wedi cael ei gydnabod yn swyddogol wrth i’r grŵp dderbyn Gwobr Gymunedol Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r berllan yn doreithiog gyda thri math o goed afal, coed gellyg a llwyni cyrens duon.

Bob hydref daw offer gwasgu afalau i’r ystâd a gwahoddir pobl ifanc o’r ddwy ysgol leol, Ysgol Maes Owen ac Ysgol y Foryd, draw i yfed y sudd afal blasus.

Roedd yr ardd goffa ddeniadol yn llafur cariad i’r tîm  o wirfoddolwyr a weddnewidiodd ddarn o dir diffaith a phlannu rhosod yno.

Fe’i hagorwyd yn swyddogol y llynedd ac mae’r plac a ddadorchuddiwyd yn ystod y seremoni yn dwyn yr arysgrif: “Er cof annwyl am breswylwyr y gorffennol, wedi mynd ond heb eu hanghofio.”

Roedd swyddog datblygu amgylcheddol Cartrefi Conwy, Matt Stowe, yn awyddus i bwysleisio y dylai’r holl glod am y “llwyddiant rhyfeddol” fynd i aelodau gwirfoddol grŵp Bysedd Gwyrdd a weithiodd yn ddiflino i fywiogi eu hystâd.

Meddai: “Mewn gwirionedd mae hyn wedi dod gan y grŵp cymunedol eu hunain, gan y tenantiaid.

“Yr unig gefnogaeth rydyn ni wedi’i rhoi mewn gwirionedd yw gyda’r broses ymgeisio am wobr gymunedol Baner Werdd.

“Mae’n gymaint  o hwb gweld bod y grŵp cymunedol wedi dod at ei gilydd a rhannu yr un bwriad. Maen nhw wedi mynd ati o ddifri ac mae ganddyn nhw’r penderfyniad, a’r brwdfrydedd a’r angerdd hanfodol.

“Rwy’n hynod falch o’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni ac roedd gen i bob ffydd y bydden nhw’n llwyddiannus, yn arbennig ar ôl gweld eu holl waith caled.

“Mae’r ffaith eu bod nhw’n cael eu cydnabod gyda gwobr genedlaethol fel hyn yn rhywbeth i ymfalchïo’n fawr ynddo. Mae’n gamp aruthrol.”

Talodd Emma Abdelkhalek, cynorthwyydd datblygu Tŷ Cymunedol, sydd hefyd yn aelod o’r grŵp Bysedd Gwyrdd, deyrnged i Stan a’r gwirfoddolwyr eraill.

Meddai: “Maen nhw’n grŵp bychan o bobl hŷn yn bennaf felly mae cyflawni rhywbeth mor fawr ag ennill Gwobr Gymunedol Baner Werdd yn wych.

“Maen nhw wedi bod yn allweddol wrth greu gweddnewidiad enfawr ac mae wedi dod â chryn dipyn o falchder i’r ardal.”