Clwb hoci newydd yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf mewn steil

Clwb hoci newydd yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf mewn steil

Mae clwb hoci wedi dathlu ei ben-blwydd cyntaf mewn steil – trwy gael cit newydd deniadol ar gyfer pob un o’i chwe tîm.

Cafodd Clwb Hoci Eirias ei greu y llynedd pan wnaeth clybiau hoci Llandudno a Bae Colwyn gyfuno i greu un tîm. Y rhesmw dros gymryd y cam i uno oedd bod y ddau glwb wedi’i chael hi’n anodd ar eu pennau eu hunain.

Mae’r cit bwrgwyn, du ac aur newydd yn cael ei noddi gan gymdeithas dai Cartrefi Conwy.

Mae gan y clwb dri thîm dynion a dau dîm merched sy’n chwarae yng nghynghreiriau Gogledd Cymru a Swydd Gaer.

Mae gan y clwb hefyd adran ieuenctid ffyniannus a thîm Badgers dan 16 oed, gyda nifer o’i aelodau’n cynrychioli Cymru a Gogledd Cymru.

Mae ganddyn nhw 60 o chwaraewyr sy’n oedolion a 90 o aelodau iau gyda’r timau i gyd yn chwarae eu gemau cartref ar y cae pob tywydd ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn.

Mae’r clwb cyfun yn mynd o nerth i nerth ac wedi lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer chwaraewyr newydd o bob oed.

Roedd gan y ddau glwb hanes hir a nodedig.

Clwb Llandudno oedd yr ail hynaf yng ngogledd Cymru ar ôl y Rhyl ac roedd yn dyddio’n ôl i’r 1880au pan oedd hoci yn y DU yn ei fabandod.

Dywedodd y cyd-gadeirydd Tim Baker, a oedd yn un o hoelion wyth clwb Llandudno: “Fe wnaethon ni benderfynu y byddai’n syniad da crynhoi a dod at ein gilydd.

“Roedd yn ddiwrnod trist pan wnaethon ni ddirwyn clwb Llandudno i ben ond roedd yn rhaid i ni wneud hynny neu fydden ni ddim wedi gallu goroesi i’r tymor newydd. Rydym yn gryfach gyda’n gilydd.

“Rydym yn dathlu ein pen-blwydd cyntaf fel clwb cyfun ac yn dechrau ar ein hail dymor. Mae wedi bod yn gam cadarnhaol i bawb.

“Mae’n glwb teulu-gyfeillgar sy’n anelu at hyrwyddo ethos chwaraeon da ymysg pob oed.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Cartrefi Conwy am y gefnogaeth i noddi’r cit ac mae cael enw’r noddwr ar du blaen y crys yn codi ein proffil ni a nhw.

Yn ôl y cyd-gadeirydd Simon John Norma Wilson, roedd proffil hoci yn llawer uwch y dyddiau hyn diolch i fwy o sylw ar y teledu.

Meddai: “Mae’r gêm wedi cyflymu a belach mae’n gêm chwim, gyffrous iawn i’w gwylio a’i chwarae ac mae’n werth ei darlledu ar y teledu oherwydd bod technoleg camera yn golygu bod modd i’r camera fynd i mewn yn agos i’r bêl mewn ffordd nad oedd yn bosibl o’r blaen.

“Mae’n chwaraeon tîm ardderchog ac yn ymarfer cardiofasgwlaidd gwych a byddai’n dda o beth gweld mwy o hyrwyddo’r gamp yn yr ysgolion.”

Dywedodd Wayne Bannister, pennaeth eiddo Cartrefi Conwy: “Rydym yn sefydliad sy’n canolbwyntio’n sylweddol ar y gymuned felly roeddem yn falch iawn o gael y cyfle i gefnogi clwb lleol fel hwn.

“Mae ganddyn nhw drefniadaeth ardderchog ym Mharc Eirias ac mae’n braf iawn gweld pob grŵp oedran, dynion a merched, yn cymysgu.

“Mae’n galonogol iawn gweld pobl ifanc allan yn chwarae chwaraeon yn hytrach nag ar eu iPhones neu’n chwarae gemau cyfrifiadur neu beth bynnag.

“Maen nhw’n dechrau mor ifanc â saith oed ac rwy’n gobeithio dod â fy mab Owen, sy’n wyth oed, yma ar foreau Sadwrn.”

Gall unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth am Glwb Hoci Eirias a sut i ymuno fynd i’r wefan www.colwynbayhockey.com neu gysylltu â Janet Legget-Jones trwy e-bostio aelodaeth@colwynbayhockey.com

Category: Cartrefi News