Academi yn arwain y chwyldro mentrau cymdeithasol

Academi yn arwain y chwyldro mentrau cymdeithasol

Mae sefydliad newydd arloesol yn arwain chwyldro busnes a all helpu cymunedau ledled gogledd Cymru a grymuso pobl leol i wireddu eu potensial eu hunain.

Dyna oedd neges Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, yn lansiad swyddogol yr Academi Menter Gymdeithasol.

Mae Creu Menter, is-gwmni i gymdeithas dai Cartrefi Conwy, wedi sicrhau’r drwydded i sefydlu rhaglenni dysgu a datblygu arloesol ledled Cymru ar gyfer cwmnïau, mentrau cymdeithasol a chyrff cyhoeddus.

Mae’r Academi Menter Gymdeithasol yn defnyddio model flaengar o’r Alban sydd bellach i’w gweld ar draws 14 gwlad – rhai mor bell i ffwrdd â Chanada, Tsieina, Awstralia ac Affrica.

Mae Creu Menter, a leolir ym Mochdre, ger Bae Colwyn ac a enwyd yn ddiweddar fel un o’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru yng ngwobrau Twf Cyflym 50, yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gydweithredol Cymru sy’n cyflwyno’r rhaglenni yn Ne Cymru.

Mae’n rhan allweddol o gynllun twf uchelgeisiol Creu Menter a fydd hefyd yn defnyddio ei elw er budd tenantiaid Cartrefi Conwy.

Disgrifiodd Mr Waters yr Academi fel “sbardun ar gyfer newid” a fyddai, gobeithio, yn efelychu llwyddiant y cysyniad yn yr Alban.

Roedd yn falch o glywed bod 65 y cant o’r 6,000 o fentrau cymdeithasol yn yr Alban yn cael eu harwain gan ferched, yn cyflogi 88,000 o bobl ac wedi cyfrannu mwy na £6 biliwn i’r economi.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Rwy’n credu bod gan yr Academi botensial enfawr ac mae gen i lawer o ffydd y bydd yn llwyddiant.

“Mae ganddi’r potensial i fod yn arf datblygu economaidd pwerus iawn. Mae mentrau cymdeithasol eisoes wedi cynhyrchu biliynau o bunnoedd yng Nghymru a chyda’r cyfeiriad a’r weledigaeth a gynigir gan yr Academi, mi allan nhw ddylanwadu ar y sector mewn rhannau o’r economi lle nad yw’r sector preifat yn ffynnu.

“Mae gan fentrau cymdeithasol ran allweddol i’w chwarae wrth gadw cyfoeth o fewn ein cymunedau, a’r peth pwysig amdanyn nhw yw eu bod yn dal i fod yn fenter. Mae’n dal i ymwneud â gwneud arian a rhedeg busnesau llwyddiannus, yr hyn sy’n eu diffinio yw’r hyn y maen nhw’n ei wneud gyda’r elw, a’r gwerthoedd rydych chi’n eu hymgorffori.

“Nid yw’r Academi yn mynd i oresgyn pob problem economaidd rydym wedi’i hwynebu. Ond mae ganddi’r pŵer i rymuso pobl i’w helpu i gyflawni eu potensial eu hunain, oherwydd eu bod nhw’n gweithredu mewn ysbryd o nod cyffredin. Mae’n ymwneud â bod yn rhan o fusnes, ond mae hefyd yn rhyddhau potensial ehangach, a chredaf ar lefel ddynol bod hynny’n syniad pwerus iawn.

“Yn ogystal â’r Academi, rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi cyhoeddi’r prosiectau a gymeradwywyd yn ddiweddar ar gyfer cronfa her y Gronfa Sylfaenol gwerth £4.5 miliwn. Mae nifer o brosiectau da iawn yn y Gogledd wedi cael eu cymeradwyo ond yr hyn sydd hefyd yn galonogol yw bod dros 20 o’r 52 prosiect a gymeradwywyd yn fentrau cymdeithasol.”

Yn ôl Sharon Jones, y Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaeth, bu diddordeb “ysgubol” yn yr Academi ac roedd cyrsiau eisoes yn cael eu cyflwyno ym mhob un o chwe sir gogledd Cymru.

Meddai: “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru sydd wedi darparu cyllid cychwynnol i ni dros y tair blynedd nesaf er mwyn galluogi i’r Academi yma ddod i Gymru, a hefyd ar lefel fwy lleol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd wedi dyfarnu cronfa bwrsariaeth i ni dros y 12 mis nesaf er mwyn galluogi sefydliadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol sydd wedi’u lleoli yma yng Nghonwy i gael mynediad at raglenni’r Academi ar gyfradd is.

“Mae gennym gynllun busnes tair blynedd a’r peth gwirioneddol wych am yr Academi yw ei bod yn agored i bawb.

“Mae ganddi raglenni sydd wedi’u hanelu at y Trydydd Sector a mentrau cymdeithasol, drwy’r llinynnau menter ac effaith gymdeithasol.

“Mae ganddi hefyd raglenni sydd wedi’u hanelu at fusnesau sector preifat drwy’r llinynnau arweinyddiaeth a dysgu sydd hefyd yn berthnasol i fentrau cymdeithasol, ac mae ganddi raglenni unigryw a luniwyd yn benodol ar gyfer y sector cyhoeddus o’r enw arweinyddiaeth fentrus fydd yn edrych ar sut y gallan nhw fod yn fwy mentrus wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae gennym 11 o hwyluswyr sy’n arweinwyr ym maes mentrau cymdeithasol ac yn y gymuned fusnes ledled y Gogledd.

“Mae ganddyn nhw lawer iawn o brofiad ac maen nhw’n arweinwyr ysbrydoledig a thrawsnewidiol.

“Mae’n ymwneud â phobl sydd â phrofiad yn rhannu mewnwelediad i’w llwyddiant fel arweinwyr busnes.”

Ymhlith yr hwyluswyr yng Ngogledd Cymru mae Menna Jones, prif weithredwr yr Antur Waunfawr, sydd wedi gweithio yn y fenter gymdeithasol yn Waunfawr, ger Caernarfon, am 25 mlynedd.

Meddai: “Rwyf wedi gorfod dysgu rhywbeth newydd, os nad bob dydd yna bob wythnos, oherwydd bod yr ystod o sgiliau sydd eu hangen arnom i fod yn entrepreneuriaid cymdeithasol yn golygu bod angen i ni gymryd cymaint o wybodaeth i mewn.”

Roedd yn deimlad a ategwyd gan Jocelle Lovell o Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Meddai: “Rydym wedi adnabod ychydig dros 2,000 o fentrau cymdeithasol ledled Cymru sy’n cyfrannu dros £3 biliwn i’r economi.

“Rwy’n credu yn aml iawn nad yw pobl yn meddwl bod mentrau cymdeithasol yn broffidiol ac weithiau maen nhw’n meddwl nad yw gwneud elw yn beth da. Mae angen elw ar bob un ohonom i fod yn gynaliadwy.

“Yr hyn rydych chi’n ei wneud gyda’r elw hwnnw sy’n gwneud y gwahaniaeth go iawn – mae 76 y cant o fentrau cymdeithasol yn talu’r cyflog byw ac mae dros 57 y cant yn dweud bod eu gweithlu’n byw o fewn 10 milltir i’r man lle maen nhw’n mynd i’r gwaith.

“Mae gennym swyddi lleol i bobl leol, gan gadw’r arian hwnnw’n lleol a’i ailgylchu yn y cymunedau hynny.”

Dywedodd Nazia Ali, a oedd yno’n cynrychioli’r Academi Menter Gymdeithasol wreiddiol yn yr Alban: “Mae’r cydweithrediad sy’n digwydd ar lefel gymunedol wedi fy syfrdanu, ac er mwyn creu newid parhaol mae’n rhaid i ni i gyd ddod at ein gilydd.

“Mae menter gymdeithasol yn gyfrwng a all greu newid parhaol. Ein hethos yw ein bod yn dysgu i newid y byd.”

 

 

 

Categoriau: Cartrefi News