Pennaeth tai ar ras i seboni er budd elusen

Pennaeth tai ar ras i seboni er budd elusen

Mae Andrew Bowden, 59 oed, ein prif weithredwr yma yn Cartrefi Conwy, wedi mynd ati mewn dwy ffordd yn ei ymgyrch i godi arian i’r NSPCC.

Yn ogystal â chymryd rhan ym Marathon Llundain y flwyddyn nesaf, mae wedi cychwyn ar daith o amgylch yr holl gymdeithasau tai eraill yng ngogledd Cymru lle mae’n golchi ceir y staff yn gyfnewid am rodd.

Ei ymweliad cyntaf oedd swyddfeydd Cartrefi Cymunedol Gwynedd ac ers hynny mae hefyd wedi bod i bencadlys Clwyd Alyn ar Barc Busnes Llanelwy.

Y cymdeithasau tai nesaf ar ei restr yw Grŵp Cynefin, Cymdeithas Tai Wales and West a Tai Gogledd Cymru, cyn cwblhau ei ymgyrch golchi ceir ym Mhencadlys Cartrefi Conwy yn Abergele.

Mae hefyd wedi sefydlu tudalen JustGiving er mwyn i bobl ei noddi ar gyfer y marathon fis Ebrill nesaf pan fydd ei ddau fab, Jonathan, 32 oed, a Marcus, 30 oed, yn cyd-redeg ag ef.

Mae Tîm Bowden wedi gosod targed cyffredinol i’w hunain i godi £6,600 ar gyfer yr NSPCC.

Tarfwyd ar baratoadau Andrew ar gyfer y marathon pan ddioddefodd anaf i gewyn ei ben-glin dde, a olygodd nad oedd yn gallu ymarfer am oddeutu mis ond mae bellach yn ôl ar y trac.

Meddai Andrew: “Rydw i wir eisiau codi cymaint o arian â phosib i’r NSPCC sydd, yn fy nhyb i, yn elusen blant rhagorol.

“Maen nhw’n gwneud gwaith gwych, yn enwedig yng ngogledd Cymru yn eu swyddfeydd ym Mhrestatyn lle mae ChildLine wedi’i leoli.

“Mae yna nifer cynyddol o blant a phobl ifanc yn agored i niwed ac rwy’n angerddol am ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth ar eu cyfer.

“Er fy mod yn gwneud cryn dipyn o gerdded, nid wyf yn un o redwyr naturiol bywyd a dyma fydd fy marathon cyntaf erioed felly mae’n her bersonol enfawr.

“Ond rydw i’n rhedeg y ras gyda fy nau fab sydd yn eithaf athletaidd. Dydw i ddim yn disgwyl iddyn nhw gael eu dal yn ôl gennyf ac yn sicr dydw i ddim yn mynd i gyrraedd podiwm yr enillydd ond rwy’n gobeithio cwblhau’r marathon mewn oddeutu pedair awr a hanner.

 

“Yn y cyfamser, rydw i wedi cychwyn ar y daith golchi ceir sy’n mynd yn dda – mae’n waith caled ac mae’n gofyn am llawer iawn o nerth bôn braich ond rydw i’n ei fwynhau.”

Ymhlith y rhai y bu Andrew yn golchi eu ceir yn Clwyd Alyn oedd ei gyn-gydweithiwr Trevor Henderson, cyfarwyddwr gweithredol rhaglenni newid busnes y gymdeithas tai.

Meddai: “Gweithiodd Andrew a minnau gyda’n gilydd yn Clwyd Alyn amser maith yn ôl ond rhaid i mi gyfaddef na wnes i erioed ddychmygu ei fod yn olchwr ceir mor ddawnus nac yn rhedwr marathon o ran hynny.

“Ond roedd yn dda cael glanhau fy nghar ac mae bellach yn sgleinio sy’n arbed i mi ei wneud fy hun y penwythnos hwn.”

Mae mab Andrew, Jonathan, yn gyn-bencampwr bocsio pwysau go drwm Cymru, yn falch o’i dad am ymgymryd â’r her.

Meddai: “Mae fy nhad yn ymroddedig iawn yn ei ymdrechion i ddod yn heini ac rwy’n eithaf siŵr y bydd yn cwblhau’r marathon.

“Mae e’n gymeriad penderfynol iawn a phan mae’n rhoi ei feddwl ar rywbeth yn amlach na pheidio mae’n llwyddo i’w wneud.

“Mae’n wych ein bod ni i gyd yn ei wneud gyda’n gilydd gan y bydd yn gwneud Marathon Llundain yn achlysur hyd yn oed yn fwy arbennig i ni.”

Gall unrhyw un sy’n dymuno rhoi rhodd wneud hynny trwy:

www.justgiving.com/fundraising/teambowden

Category: Cartrefi News