Mae ymgyrch fawr wedi’i lansio i annog pobl sy’n byw yn Llandudno i adrodd am bethau posib a allai achosi, fel cronni eitemau.
Mae Cartrefi Conwy wedi ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gyfathrebu neges i breswylwyr er mwyn ceisio lleihau’r risg o beryglon tân yn eu cartrefi.
Mae ymgyrch ‘Dweud nid difaru’ y gwasanaeth tân yn cael ei hanelu at breswylwyr yn Llandudno lle mae llawer o 3,900 eiddo’r gymdeithas dai wedi’u lleoli.
Mae’r ddau sefydliad yn galw arnyn nhw i gysylltu os ydyn nhw’n amau bod yno beryglon tân posib yn eu cymdogaethau, gan gynnwys cronni eitemau a phobl yn ysmygu yn y gwely.
Mae gan Cartrefi Conwy bartneriaeth ers tro gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac ymwelodd pedwar o’u prentisiaid ag ystafell reoli’r gwasanaeth tân yn Llanelwy y mae’n ei rhannu â Heddlu Gogledd Cymru.
Dewiswyd y pedwar oherwydd eu bod yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth tân sy’n cwmpasu meysydd fel archwiliadau larymau mwg a nwy ac fel rhan o’r bartneriaeth hanfodol mae gan y gwasanaeth tân hefyd swyddog diogelwch tân yn y cartref sydd ar secondiad parhaol gyda Cartrefi Conwy.
Treuliodd Chad Rogerson, rheolwr partneriaeth y gwasanaeth tân ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, ddwy flynedd yn y swydd honno gyda Cartrefi Conwy ac meddai: “Dyma un o’n partneriaethau mwyaf llwyddiannus a’i nod yw amddiffyn a gwneud cymunedau mwy diogel ar draws gogledd Cymru.
“Rydym yn gweithio mewn partneriaeth efo Cartrefi Conwy i weithio’n fwy call a helpu eu tenantiaid, sy’n aml iawn yn bobl hŷn neu’n agored i niwed, i fyw bywydau mwy diogel.
“Mae’n ymwneud â helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na gorfod mynd i ofal ac rydym yn chwarae rhan fawr yn yr ymgyrch diogelwch tân gyda’u cymunedau ac wrth eu cyfeirio at asiantaethau cymorth eraill.
“Mae ymgyrch ‘Dweud nid difaru’ wedi’i seilio ar denantiaid, cymdogion ac ati sy’n poeni am ambell eiddo a pheryglon tân posib. Y gobaith yw y byddant yn adrodd am eu pryderon ac yna gallwn ymchwilio i hynny er mwyn ciesio lleihau peryglon tân.
“Yn amlach na pheidio y prif beth sy’n lladd mewn tanau yw anadlu mwg a chael llond ysgyfaint o fwg gwenwynig o ddeunyddiau yn yr ystafell, felly’r cyngor arferol yw aros yn isel a chyrraedd ffenestr.
“Ond mae ein ffocws ar atal digwyddiadau ac mae gweithio mor agos efo staff Cartrefi Conwy yn golygu y gallan nhw annog eu tenantiaid i fod yn ddiogel yn eu cartrefi ac i gadw llygad am beryglon tân posibl ymhlith eu cymdogion.”
Mae partneriaeth Cartrefi Conwy gyda’r gwasanaeth tân wedi bodoli ers pum mlynedd bellach ac ymhlith y prentisiaid a ymwelodd â’r ystafell reoli yr oedd Kristyn Roberts, 38 oed, o Lysfaen, sy’n brentis gweinyddol yn Gwasanaethau Cymdogaeth.
Yn ystod ei phrentisiaeth, mae Kristyn hefyd yn gweithio’n rhan amser fel Cydlynydd Byw’n Annibynnol yn cefnogi tenantiaid yn Abergele a Hen Golwyn ac yn y swydd yma mae’n trefnu gwiriadau diogelwch tân a phrofion larwm.
Meddai: “Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi ddod i weld sut mae ystafell reoli’r Gwasanaeth Tân yn gweithredu hyd yn oed os na fydd yn rhaid i mi byth ymwneud â digwyddiad go iawn gobeithio.
“Rydan ni’n gweithio’n dda iawn efo’n gilydd i roi’r offer a’r cyngor sydd eu hangen i’n tenantiaid i’w cadw’n ddiogel a’u galluogi i fod yn hyderus i fyw yn eu cartrefi eu hunain.”
Dywedodd Dan Twitchett, 27 oed, o Glan Conwy, sy’n brentis yn yr Adran Eiddo a Chynnal a Chadw: “Mae wedi tanlinellu pwysigrwydd y gwaith diogelwch rydyn ni’n ei wneud.
“Rhan allweddol o fy ngwaith yw gwasanaethu nwy sy’n helpu i sicrhau bod tenantiaid yn ddiogel yn eu cartrefi ac rydyn ni hefyd yn archwilio larymau mwg ac unwaith eto mae hynny mor bwysig wrth geisio achub bywydau.”
Ychwanegodd Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych: “Ein gwaith ni yw helpu i atal tanau rhag digwydd yn y lle cyntaf – a dyma lle mae angen help trigolion lleol arnom.
“Rydan ni eisiau i bobl gysylltu efo ni os ydyn nhw’n adnabod unrhywun sydd mewn perygl fel y gallwn ni gamu i’r adwy a helpu i atal tân rhag digwydd a gobeithio achub bywydau.
“Mae’r arwyddion i edrych allan amdanyn nhw’n cynnwys, er enghraifft, ysmygu yn y gwely, anghofio am y coginio, cronni eitemau, rhywun sy’n dod adref yn aml ar ôl cael ychydig o ddiod ac yn ceisio coginio. Mae’r rhain i gyd yn cynyddu’r risg o dân.
“Mae ein neges yn syml; peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion – os ydach chi’n meddwl bod rhywun mewn perygl, codwch y ffôn i ddweud wrthym. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
“Peidiwch â gadael pethau i fynd yn rhy hwyr – peidiwch â gadael i rywun rydych chi’n ei adnabod i fod y person nesaf i farw oherwydd tân mewn tŷ. Trwy weithio gyda’n gilydd fel hyn gallwn achub bywydau.”