Mae grŵp o denantiaid a staff caredig mewn cymdeithas dai wedi bod yn brysur yn lapio anrhegion Nadolig i bobl hŷn sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
Canolbwynt y gwaith lapio yw Tŷ Cymunedol Cartrefi Conwy yn Rhodfa Caer, Bae Cinmel, sydd wedi ei droi’n Groto Siôn Corn dros dro
Maent eisoes wedi lapio 1,500 o anrhegion yn barod i’w danfon i bobl hŷn yn yr ardal a fydd gartref ar eu pennau eu hunain dros gyfnod yr ŵyl.
Dechreuwyd y cynllun ‘Be a Santa to a Senior’ bum mlynedd yn ôl gan y cwmni gofal cartref o Abergele, Home Instead Senior Care.
Mae staff Cartrefi Conwy wedi mynd yn ddwfn i’w pocedi i roi anrhegion gan gynnwys deunydd ymolchi, dillad nos, siocledi a jig-sos.
Ymhlith y rhai oedd yn brysur yn lapio yr oedd un o denantiaid Cartrefi Conwy, Karen Burrows, sydd hefyd yn aelod o Grŵp Gweithredu Cymunedol Rhodfa Caer.
Meddai: “I mi, mae’n ymwneud â chymuned, yr wythnos diwethaf mi wnes i, a thîm o dri arall, goginio cinio Nadolig tri chwrs i 24 aelod o gymuned Rhodfa Caer a oedd yn wych.
“Mae lapio anrhegion yn waith caled ond hwyliog ac rwy’n credu bod y cynllun yn syniad ardderchog. Mae cymaint o bobl hŷn yn byw ar eu pennau eu hunain yn mynd i elwa o hyn. Mae’n anhygoel.”
Ymunodd Nerys Veldhuizen, cydlynydd ymgysylltu â phobl hŷn Cartrefi Conwy yn y gwaith lapio hefyd.
Meddai: “Mi wnaeth Cartrefi Conwy ymuno â chynllun ‘Be a Santa to a Senior’ dair blynedd yn ôl ac rydym wedi gweld nifer yr anrhegion a roddwyd yn codi’n sylweddol yn yr amser hwnnw.
“Rwyf wedi gweithio gyda Home Instead Senior ar nifer o brosiectau ac mae’r ddau sefydliad yn ymwneud yn fawr ag Abergele Dementia Gyfeillgar.
“Mae’r cynllun yn ffordd wych i’r uwch reolwr byw’n annibynnol Ceri Twist a minnau fynd allan i gymuned Cartrefi Conwy lle gallwn helpu i adnabod tenantiaid a allai elwa o ymweliad ac anrheg.
“Mae’n ffordd hyfryd o ymgysylltu â thenantiaid a chyfarfod â’r rhai a fyddai’n elwa o unrhyw gefnogaeth ychwanegol.”
Ychwanegodd: “Mae’n gynllun anhygoel ac yn syml iawn. Rydym wedi treulio’r diwrnod yn ein tŷ cymunedol yn Rhodfa Caer, Bae Cinmel yn lapio anrhegion wedi’u rhoi gan aelodau’r cyhoedd, cwmnïau eraill a staff Cartrefi Conwy.
“Mae pobl wedi bod mor hael ac mae tenantiaid Cartrefi Conwy wedi rhoi o’u hamser er mwyn helpu i lapio anrhegion yn barod i’w danfon.”
Yn ôl Lucie Williams, dirprwy reolwr Home Instead Senior Care mae cynllun ‘Be a Santa to a Senior’ wedi tyfu’n sylweddol ers ei gychwyn bum mlynedd yn ôl.
Meddai: “Trwy gydol mis Tachwedd rydym wedi bod yn casglu anrhegion gan aelodau’r cyhoedd a chwmnïau lleol. Mae nifer yr anrhegion eleni wedi bod yn eithriadol.
“Rydym yn eu lapio ac yn eu danfon i bobl hŷn sy’n byw ar eu pennau eu hunain ac a fyddai, yn ein barn ni, yn elwa oherwydd efallai nad oes ganddyn nhw unrhyw un yn galw heibio fel rheol. Mae’r anrhegion a roddwyd gan aelodau staff Cartrefi Conwy wedi gweld cyfanswm yr anrhegion a roddwyd yn cynyddu i fwy na 1,500 sy’n nifer anhygoel.
“Mae treulio’r diwrnod yn nhŷ cymunedol Rhodfa Caer yn lapio anrhegion ochr yn ochr â gwirfoddolwyr Cartrefi Conwy wedi bod yn wych. Bydd yr anrhegion yn cael eu danfon gan Cartrefi Conwy, Home Instead Senior Care a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
“Caiff y bobl hŷn yr ydym yn rhoi rhoddion iddyn nhw eu cyfeirio atom gan y Groes Goch, Re-engage, sef enw newydd Contact the Elderly, ac Age Connects.”
Ychwanegodd: “Rydw i mor ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi anrhegion ac i staff Cartrefi Conwy am eu rhoddion, eu cefnogaeth a’u cymorth i lapio’r anrhegion. Mae hyd yn oed y papur lapio a’r selotep yn cael eu rhoi yn rhodd i ni.
“Os yw’n gwneud i bobl hŷn sy’n byw ar eu pennau eu hunain deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yna rydyn ni wedi gwneud ein gwaith. Nid yw’n gymaint am yr anrheg ond y ffaith bod rhywun wedi galw heibio a chael sgwrs.”
Ychwanegodd y Swyddog Datblygu Tai Cymunedol, Emma Abdelkhalek: “Mae cymaint o bobl hŷn sy’n fregus yn byw yn ein cymuned ac os yw dosbarthu ychydig o anrhegion yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn codi eu hysbryd yna mae’n rhaid bod hynny’n beth da.”